Joshua 23:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua'r llaw ddeau na thua'r llaw aswy;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly byddwch yn ddewr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn sgrôl cyfraith Moses. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly byddwch yn gadarn dros gadw a chyflawni'r cwbl sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr cyfraith Moses, heb wyro oddi wrtho i'r dde na'r aswy.