Joshua 24:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i'ch erbyn, yr Amoriaid, a'r Pheresiaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Girgasiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; a mi a'u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn, ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen dyma chi'n dod i Jericho. Daeth arweinwyr Jericho i ymladd yn eich erbyn chi, a'r Amoriaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hethiaid, Girgasiaid, Hefiaid a Jebwsiaid hefyd, ond dyma fi'n gwneud i chi ennill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi ichwi groesi'r Iorddonen a dod i Jericho, brwydrodd llywodraethwyr Jericho yn eich erbyn (Amoriaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hethiaid, Girgasiaid, Hefiaid a Jebusiaid), ond rhoddais hwy yn eich llaw.