Joshua 24:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr ARGLWYDD, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os nad ydych chi eisiau addoli'r ARGLWYDD, penderfynwch heddiw pwy dych chi am ei addoli — y duwiau roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i'r Ewffrates, neu dduwiau'r Amoriaid dych chi'n byw yn eu tir nhw. Ond dw i a'm teulu yn mynd i addoli'r ARGLWYDD!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oni ddymunwch wasanaethu'r ARGLWYDD, dewiswch ichwi'n awr pwy a wasanaethwch: ai'r duwiau a wasanaethodd eich hynafiaid pan oeddent y tu hwnt i'r Afon, ai ynteu duwiau'r Amoriaid yr ydych yn byw yn eu gwlad? Ond byddaf fi a'm teulu yn gwasanaethu'r ARGLWYDD."