Joshua 24:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a yrrodd allan yr holl bobloedd, a'r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o'n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr ARGLWYDD; canys efe yw ein DUW ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr ARGLWYDD wnaeth yrru'r bobloedd i gyd allan o'n blaenau ni, gan gynnwys yr Amoriaid oedd yn byw yn y wlad yma. Felly dŷn ni hefyd am addoli'r ARGLWYDD. Ein Duw ni ydy e.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hefyd gyrrodd yr ARGLWYDD allan o'n blaen yr holl bobloedd a'r Amoriaid oedd yn y wlad. Yr ydym ninnau hefyd am wasanaethu'r ARGLWYDD, oherwydd ef yw ein Duw."