Joshua 24:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr ARGLWYDD; canys DUW sancteiddiol yw efe: DUW eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na'ch pechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Josua yn rhybuddio'r bobl, “Wnewch chi ddim dal ati i addoli'r ARGLWYDD. Mae e'n Dduw sanctaidd. Mae e'n Dduw eiddigeddus. Fydd e ddim yn maddau i chi am wrthryfela a pechu yn ei erbyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd Josua wrth y bobl, "Ni fedrwch wasanaethu'r ARGLWYDD, oherwydd y mae'n Dduw sanctaidd, ac yn Dduw eiddigus, ac ni fydd yn maddau eich troseddau a'ch pechodau.