Joshua 24:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Tu hwnt i'r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Tera tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd wrth y bobl, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Yn bell, bell yn ôl roedd eich hynafiaid (hyd at Tera, tad Abraham a Nachor) yn byw yr ochr draw i'r Afon Ewffrates. Roedden nhw'n addoli duwiau eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Josua wrth yr holl bobl, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Ers talwm yr oedd Tera, tad Abraham a Nachor eich hynafiaid, yn byw y tu hwnt i'r Ewffrates ac yn addoli duwiau estron.