Joshua 24:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr ARGLWYDD i'w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Josua yn gofyn i'r bobl, “Ydych chi'n derbyn eich bod chi'n atebol iddo ar ôl gwneud y penderfyniad yma i addoli'r ARGLWYDD?” A dyma nhw'n dweud, “Ydyn, dŷn ni'n atebol.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Josua wrth y bobl, "Yr ydych yn dystion yn eich erbyn eich hunain i chwi ddewis gwasanaethu'r ARGLWYDD." Atebasant hwythau, "Tystion ydym."