Joshua 24:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at ARGLWYDD DDUW Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Iawn,” meddai Josua, “taflwch y duwiau eraill sydd gynnoch chi i ffwrdd, a rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, Duw Israel.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn awr ynteu," meddai, "bwriwch allan y duwiau estron sydd yn eich mysg, a throwch eich calon at yr ARGLWYDD, Duw Israel."