Joshua 24:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n dweud wrth y bobl, “Mae'r garreg yma wedi clywed popeth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrthon ni. Bydd yn dyst yn eich erbyn chi os gwnewch chi droi cefn ar Dduw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth yr holl bobl, "Edrychwch, bydd y maen hwn yn dystiolaeth yn ein herbyn, oherwydd clywodd yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthym, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn os byddwch yn gwadu eich Duw."