Joshua 24:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Israel a wasanaethodd yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ôl Josua, ac a wybuasent holl waith yr ARGLWYDD a wnaethai efe er Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedd Josua'n fyw roedd pobl Israel yn addoli'r ARGLWYDD. A dyma nhw'n dal ati i'w addoli pan oedd yr arweinwyr eraill o'r un genhedlaeth yn dal yn fyw — y dynion oedd wedi gweld drostyn nhw eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwasanaethodd Israel yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau'r henuriaid hynny a oroesodd Josua ac a wyddai am yr y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD dros Israel.