Joshua 24:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac esgyrn Joseff, y rhai a ddygasai meibion Israel i fyny o'r Aifft, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o'r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er can darn o arian; a bu i feibion Joseff yn etifeddiaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl Israel wedi cario esgyrn Joseff o'r Aifft, a dyma nhw'n eu claddu yn Sichem, ar y darn o dir roedd Jacob wedi ei brynu am gant o ddarnau arian gan feibion Hamor, tad Sichem. Roedd y tir hwnnw yn rhan o diriogaeth disgynyddion Joseff.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr Israeliaid wedi cludo esgyrn Joseff o'r Aifft, a chladdwyd hwy yn Sichem yn y llain o dir a brynodd Jacob gan feibion Hamor, tad Sichem, am gant o ddarnau arian, i fod yn eiddo i blant Joseff.