Joshua 24:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a'ch dygais i wlad yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i'ch erbyn: a myfi a'u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddianasoch eu gwlad hwynt; a minnau a'u difethais hwynt o'ch blaen chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fi'n dod â chi i dir yr Amoriaid, sef y bobl oedd yn byw i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen. Dyma nhw'n ymladd yn eich erbyn chi, ond dyma fi'n eu dinistrio nhw'n llwyr o'ch blaenau chi. Chi gafodd ennill y frwydr, a concro eu tir nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna deuthum chwi i wlad yr Amoriaid, sy'n byw y tu hwnt i'r Iorddonen, ac er iddynt ryfela yn eich erbyn, rhoddais hwy yn eich llaw, a chawsoch feddiannu eu gwlad, wedi imi eu distrywio o'ch blaen.