Joshua 3:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y DUW byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Hefiaid, a'r Pheresiaid, a'r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a'r Jebusiaid, o'ch blaen chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma sut byddwch chi'n gweld fod y Duw byw gyda chi, a'i fod yn mynd i yrru allan y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebwsiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma sut y byddwch yn gwybod bod y Duw byw yn eich mysg, a'i fod yn sicr o yrru allan o'ch blaen y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebusiaid: