Joshua 3:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Josua'n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw'n gwneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd wrth yr offeiriaid, "Codwch arch y cyfamod ac ewch drosodd o flaen y bobl." Ac wedi iddynt godi arch y cyfamod, aethant o flaen y bobl.