Joshua 4:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant yng nghanol yr Iorddonen, nes gorffen pob peth a orchmynasai yr ARGLWYDD i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua: a'r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Safodd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch ar wely'r Afon Iorddonen nes oedd popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Josua wedi ei gyflawni. Yn y cyfamser roedd y bobl yn croesi'r afon ar frys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu'r offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn sefyll yng nghanol yr Iorddonen nes cwblhau popeth y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Josua ei ddweud wrth y bobl, y cyfan yr oedd Moses wedi ei orchymyn i Josua. Yr oedd y bobl yn brysio i groesi,