Joshua 4:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i'w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dod. Pan oedden nhw wedi cyrraedd y tir sych, dyma ddŵr yr afon yn dechrau llifo eto, a gorlifo fel o'r blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fel yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD yn esgyn o ganol yr Iorddonen, a gwadnau eu traed yn cyffwrdd tir sych, dychwelodd dyfroedd yr Iorddonen i'w lle, a llifo'n llawn at ei glannau megis cynt.