Joshua 4:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel, ac a'u dygasant drosodd gyda hwynt i'r llety ac a'u cyfleasant yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r dynion yn gwneud yn union fel dwedodd Josua. Dyma nhw'n codi un deg dwy o gerrig o ganol yr Afon Iorddonen (fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua — un garreg ar gyfer pob llwyth.) A dyma nhw'n cario'r cerrig i'r gwersyll, ac yn eu gosod nhw i lawr yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnodd Josua, a chodi deuddeg maen o wely'r Iorddonen, yn l nifer llwythau'r Israeliaid, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Josua, a'u cludo drosodd gyda hwy i'r man lle'r oeddent yn gwersyllu, a'u gosod yno.