Joshua 5:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen tua'r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o'r ARGLWYDD ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd brenhinoedd yr Amoriaid a'r Canaaneaid wedi digalonni'n lân ac mewn panig llwyr. Roedden nhw wedi clywed fod yr ARGLWYDD wedi sychu'r Afon Iorddonen er mwyn i bobl Israel allu croesi drosodd. (Brenhinoedd yr Amoriaid oedd yn teyrnasu i'r gorllewin o'r Iorddonen, a brenhinoedd y Canaaneaid ar hyd arfordir Môr y Canoldir).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd holl frenhinoedd yr Amoriaid ar yr ochr orllewinol i'r Iorddonen, a holl frenhinoedd y Canaaneaid yn ymyl y mr, fod yr ARGLWYDD wedi sychu dyfroedd yr Iorddonen o flaen yr Israeliaid, nes iddynt groesi, suddodd eu calon ac nid oedd hyder ganddynt i wynebu'r Israeliaid.