Joshua 5:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach, eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna'r diwrnod pan wnaeth y manna stopio dod. O'r diwrnod pan ddechruon nhw fwyta cynnyrch y tir, gafodd pobl Israel ddim bwyta manna eto. O'r flwyddyn honno ymlaen roedden nhw'n bwyta cynnyrch gwlad Canaan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiodd y manna drannoeth wedi iddynt fwyta o gynnyrch y wlad, ac ni chafodd yr Israeliaid fanna wedyn, eithr bwyta cynnyrch gwlad Canaan y flwyddyn honno.