Joshua 5:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd yntau, Nage; eithr yn dywysog llu yr ARGLWYDD yn awr y deuthum. A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addolodd; ac a ddywedodd wrtho ef, Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n ateb, “Pennaeth byddin yr ARGLWYDD ydw i. Dw i wedi cyrraedd.” A dyma Josua yn mynd ar ei wyneb ar lawr o'i flaen, a dweud, “Dy was di ydw i. Beth mae fy meistr eisiau i mi ei wneud?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau, "Nage; ond deuthum yn awr fel pennaeth llu'r ARGLWYDD." Syrthiodd Josua i'r llawr o'i flaen a moesymgrymu, a gofyn iddo, "Beth sydd gan f'arglwydd i'w ddweud wrth ei was?"