Joshua 5:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt: canys dienwaededig oeddynt hwy, am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A bellach, roedd eu meibion wedi cymryd eu lle. A nhw wnaeth Josua eu henwaedu, am fod eu tadau ddim wedi cadw'r ddefod yn ystod y cyfnod yn yr anialwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd eu meibion yn eu lle, ac arnynt hwy yr enwaedodd Josua; yr oeddent yn ddienwaededig am nad enwaedwyd arnynt ar y daith.