Joshua 6:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig, oherwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd giatiau Jericho wedi eu cau'n dynn am fod ganddyn nhw ofn pobl Israel. Doedd neb yn cael mynd i mewn nac allan o'r ddinas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Jericho wedi ei chloi'n dynn rhag yr Israeliaid, heb neb yn mynd i mewn nac allan.