Joshua 6:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â'r utgyrn: a'r rhai arfog oedd yn myned o'u blaen hwynt: a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr ARGLWYDD, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r saith offeiriad yn mynd allan o flaen Arch yr ARGLWYDD, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna aeth y saith offeiriad, a oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd, o flaen arch yr ARGLWYDD gan seinio'r utgyrn, gyda'r gwu375?r arfog o'u blaen a'r l-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd.