Joshua 6:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr ARGLWYDD y ddinas i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y seithfed gwaith rownd, dyma'r offeiriaid yn chwythu un nodyn hir, a dyma Josua yn dweud wrth y bobl, “Gwaeddwch! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna ar y seithfed tro, pan seiniodd yr offeiriaid yr utgyrn, dywedodd Josua wrth y fyddin, "Bloeddiwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chwi.