Joshua 6:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â'r utgyrn. A phan glybu y bobl lais yr utgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a'r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fyny i'r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a enillasant y ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y bobl y corn hwrdd yn seinio dyma nhw'n gweiddi'n uchel. Syrthiodd wal y ddinas, a dyma'r milwyr yn mynd yn syth i mewn iddi ac yn ei choncro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bloeddiodd y bobl pan seiniodd yr utgyrn; ac wedi i'r fyddin glywed sain yr utgyrn, a bloeddio bloedd uchel, syrthiodd y mur i lawr ac aeth y fyddin i fyny am y ddinas, bob un ar ei gyfer, a'i chipio.