Joshua 6:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Josua a'u tynghedodd hwy y pryd hwnnw, gan ddywedyd, Melltigedig gerbron yr ARGLWYDD fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf‐anedig y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gafodd dinas Jericho ei dinistrio roedd Josua wedi tyngu ar lw: “Bydd pwy bynnag sy'n ceisio ailadeiladu dinas Jericho yn cael ei felltithio gan yr ARGLWYDD. Bydd ei fab hynaf yn marw pan fydd e'n gosod y sylfaeni, a'i fab ifancaf yn marw pan fydd e'n rhoi'r giatiau yn eu lle!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r pryd hwnnw cyhoeddodd Josua y llw hwn, a dweud: "Melltigedig gerbron yr ARGLWYDD fyddo'r sawl a gyfyd ac a adeilada'r ddinas hon, Jericho; ar draul ei gyntafanedig y gesyd ei seiliau hi, ac ar draul ei fab ieuengaf y cyfyd ei phyrth."