Joshua 6:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn pan fydd yr offeiriaid yn seinio un nodyn hir ar y cyrn hwrdd, rhaid i'r fyddin i gyd weiddi'n uchel. Bydd waliau'r ddinas yn syrthio, a bydd y fyddin yn gallu ymosod, a'r dynion i gyd yn gallu mynd yn syth i mewn i'r ddinas.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaw caniad hir ar y corn hwrdd, a chwithau'n clywed sain yr utgorn, bloeddied y fyddin gyfan bloedd uchel, ac fe syrth mur y ddinas i lawr; yna aed pob un o'r fyddin i fyny ar ei gyfer."