Joshua 6:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a'r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n dweud wrth y milwyr, “Ymlaen! Martsiwch o gwmpas y ddinas, gyda grŵp o ddynion arfog yn mynd o flaen Arch yr ARGLWYDD.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth y fyddin, "Ewch ymlaen ac amgylchwch y ddinas, gyda'r rhai arfog yn mynd o flaen arch yr ARGLWYDD."