Joshua 7:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd‐beth: canys Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda, a gymerodd o'r diofryd‐beth: ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn meibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd pobl Israel wedi bod yn anufudd, a chymryd rhai pethau oedd i fod i gael eu cadw i'r ARGLWYDD. Roedd dyn o'r enw Achan wedi cymryd rhai o'r pethau oedd piau'r ARGLWYDD. (Roedd Achan yn fab i Carmi, ac yn ŵyr i Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda phobl Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu'r Israeliaid yn anffyddlon ynglu375?n 'r diofryd; cymerwyd rhan ohono gan Achan fab Carmi, fab Sabdi, fab Sera o lwyth Jwda, a digiodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid.