Joshua 7:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o'r diofryd‐beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Israel wedi pechu. Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda nhw! Maen nhw wedi cymryd pethau oedd piau fi — wedi dwyn, a dweud celwydd, a cuddio'r pethau gyda'i stwff nhw'u hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pechodd Israel trwy dorri fy nghyfamod a orchmynnais iddynt; mwy na hynny, y maent wedi cymryd rhan o'r diofryd, ei ladrata trwy dwyll, a'i osod gyda'u pethau eu hunain.