Joshua 7:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o'ch mysg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam maen nhw wedi ffoi o flaen eu gelynion — am eu bod nhw'n mynd i gael eu dinistrio! Dw i ddim yn mynd i fod gyda chi o hyn ymlaen, os na wnewch chi ddinistrio'r pethau hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni all yr Israeliaid sefyll o flaen eu gelynion; byddant yn troi eu gwar o flaen eu gelynion, oherwydd aethant yn ddiofryd. Ni fyddaf gyda chwi mwyach oni ddilwch y diofryd o'ch plith.