Joshua 7:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn yfory: canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Diofryd‐beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y diofryd‐beth o'ch mysg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dos, a dweud wrth y bobl am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain erbyn yfory. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel yn dweud, ‘Israel, mae yna bethau gynnoch chi oedd piau fi ac i fod i gael eu dinistrio. Fyddwch chi ddim yn ennill y frwydr yn erbyn eich gelynion nes byddwch chi wedi cael gwared â'r pethau hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cod, cysegra'r bobl a dywed wrthynt, 'Ymgysegrwch erbyn yfory, oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: "Y mae diofryd yn eich plith, Israel; ni fedrwch sefyll o flaen eich gelynion nes ichwi symud y diofryd o'ch plith."