Joshua 7:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a ddelir a'r diofryd‐beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: oherwydd iddo droseddu cyfamod yr ARGLWYDD, ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y person sy'n cael ei ddal gyda'r pethau oedd i fod i gael eu cadw i mi, yn cael ei losgi, a'i deulu gydag e. Mae e wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD — peth gwarthus i'w wneud yn Israel!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phwy bynnag a ddelir gyda'r diofryd, fe'i llosgir ef a'r cwbl a berthyn iddo, am iddo droseddu yn erbyn cyfamod yr ARGLWYDD a gwneud tro ysgeler yn Israel.'"