Joshua 7:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddynesodd ei dyaid ef bob yn ŵr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A pan ddaeth teulu Sabdi ymlaen bob yn un, dyma Achan yn cael ei ddal. (Sef Achan fab Carmi, ac ŵyr Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth 'i deulu ef gerbron fesul un, daliwyd Achan fab Carmi, fab Sabdi, fab Sera o lwyth Jwda.