Joshua 7:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwenychais hwynt, ac a'u cymerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell, a'r arian danynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnes i weld mantell hardd o Babilonia, dau gant o ddarnau arian, a bar o aur yn pwyso dros hanner cilogram. Ro'n i eisiau nhw, felly dyma fi'n eu cymryd nhw. Maen nhw wedi eu claddu yn y ddaear o dan fy mhabell, gyda'r arian yn y gwaelod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ymysg yr ysbail gwelais fantell hardd o Sinar, dau can sicl o arian, a llafn aur yn pwyso hanner can sicl. Cododd blys arnaf amdanynt, ac fe'u cymerais. Y maent wedi eu cuddio yn y ddaear i mewn yn fy mhabell, gyda'r arian oddi tanodd."