Joshua 7:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Josua a gymerth Achan mab Sera, a'r arian, a'r fantell, a'r llafn aur, ei feibion hefyd, a'i ferched, a'i wartheg, a'i asynnod, ei ddefaid hefyd, a'i babell, a'r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gydag ef a'u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Josua a pobl Israel yn mynd ag Achan fab Serach, gyda'i berthnasau a'i eiddo i gyd, i Ddyffryn Achor. (Aethon nhw a'r arian, y fantell, y bar aur, ei feibion a'i ferched, ei anifeiliaid, ei babell, a phopeth arall oedd piau fe gyda nhw.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna bu i Josua, ac Israel gyfan gydag ef, gymryd Achan fab Sera, a'r arian a'r fantell a'r llafn aur, a'i feibion a'i ferched, a'i ychen a'i asynnod a'i ddefaid a'i babell, y cwbl a feddai, ac aethant ag ef i fyny i ddyffryn Achor.