Joshua 7:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr ARGLWYDD oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna codi pentwr mawr o gerrig drosto — mae'n dal yna hyd heddiw. Doedd yr ARGLWYDD ddim wedi gwylltio wedyn. A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Achor ers hynny (sef Dyffryn y Drychineb).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Codasant drosto garnedd fawr o gerrig sydd yno hyd heddiw; yna peidiodd digofaint yr ARGLWYDD. Dyna pam y gelwir y lle hwnnw'n ddyffryn Achor hyd y dydd hwn.