Joshua 7:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddychwelasant at Josua, ac a ddywedasant wrtho. Nac eled yr holl bobl i fyny; ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fyny, ac a drawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth y dynion yn ôl dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Paid anfon pawb i ymladd yn erbyn Ai. Bydd rhyw ddwy neu dair mil o ddynion yn hen ddigon. Does dim pwynt trafferthu i anfon y fyddin i gyd. Tref fach ydy Ai.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daethant yn l at Josua a dweud wrtho, "Peidied y fyddin gyfan mynd i fyny; os dwy neu dair mil o ddynion i fyny, fe orchfygant Ai. Paid llusgo'r holl fyddin i fyny yno, oherwydd ychydig ydynt."