Joshua 7:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Josua yn rhwygo ei ddillad, a gorwedd ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedd arweinwyr Israel yno gydag e, yn taflu pridd ar eu pennau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhwygodd Josua ei fantell, a syrthiodd ar ei wyneb ar lawr gerbron arch yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a'r un modd y gwnaeth henuriaid Israel, gan luchio llwch ar eu pennau.