Joshua 8:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du'r gogledd i'r ddinas, a'r cynllwynwyr o du'r gorllewin i'r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly roedd pawb yn eu lle — y brif fyddin i'r gogledd o'r dref, a'r milwyr eraill yn barod i ymosod o'r gorllewin. Aeth Josua ei hun i dreulio'r nos ar ganol y dyffryn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd crynswth y fyddin yn gwersyllu i'r gogledd o'r dref a'r milwyr cudd i'r gorllewin o'r dref; treuliodd Josua y noson honno ar lawr y dyffryn.