Joshua 8:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o'u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i'r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan wnaeth hynny, dyma'r milwyr oedd yn cuddio yr ochr arall i'r dref yn codi ac yn ymosod arni. Yn syth ar ôl ei chipio, dyma nhw'n ei rhoi ar dân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Estynnodd Josua'r waywffon oedd yn ei law tua'r dref; ac fel yr estynnai ei law, cododd y milwyr cudd o'u lle ar unwaith, a rhuthro i mewn i'r dref a'i chipio, a llosgi'r dref heb oedi dim.