Joshua 8:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thi a wnei i Ai a'i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i'w brenin: eto ei hanrhaith a'i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o'r tu cefn iddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwna yr un fath ag a wnest ti i Jericho. Ond y tro yma cei gadw unrhyw stwff rwyt ti eisiau, a'r anifeiliaid. Gosod filwyr yr ochr arall i'r dref, yn barod i ymosod arni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwna i Ai a'i brenin fel y gwnaethost i Jericho a'i brenin, ond cewch gadw ei hanrhaith a'i hanifeiliaid hi yn ysbail i chwi eich hunain. Gosod iti filwyr ynghudd y tu cefn i'r ddinas."