Joshua 8:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r lleill a aethant allan o'r ddinas i'w cyfarfod; felly yr oeddynt yng nghanol Israel, y rhai hyn o'r tu yma, a'r lleill o'r tu acw: a thrawsant hwynt, fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r milwyr oedd wedi concro'r dref yn dod allan i ymladd hefyd. Roedd dynion Ai wedi eu dal yn y canol. Cawson nhw i gyd eu lladd gan filwyr Israel. Wnaeth neb ddianc.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y lleill allan o'r dref i'w cyfarfod, ac felly'r oeddent yn y canol rhwng dwy garfan o Israeliaid; trawyd hwy heb i neb gael ei arbed na dianc.