Joshua 8:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a thrawsant hi â min y cleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl lladd pob un o ddynion Ai oedd wedi dod allan i gyfeiriad yr anialwch i ymladd gyda nhw, dyma nhw'n mynd yn ôl i Ai a lladd pawb oedd yn dal yn fyw yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i'r Israeliaid ladd holl drigolion Ai oedd allan yn yr anialwch, lle'r oeddent wedi eu hymlid, a phob un ohonynt wedi syrthio dan fin y cleddyf nes eu difa'n llwyr, yna dychwelodd Israel gyfan i Ai, a'i tharo 'r cleddyf.