Joshua 8:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD, ac a aberthasant ebyrth hedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Cododd yr allor yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn yn sgrôl Cyfraith Moses — gyda cerrig heb eu naddu na'u cerfio gydag unrhyw offer haearn.) A dyma nhw'n cyflwyno aberthau i'w llosgi arni, ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr oedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i'r Israeliaid, ac fel sy'n ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yr oedd yr allor wedi ei hadeiladu o gerrig heb eu naddu na'u trin haearn. Ac offrymasant arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD, ac aberthu heddoffrymau.