Joshua 8:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A holl Israel, a'u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a'u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, yn gystal yr estron a'r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a'u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD o'r blaen fendithio pobl Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl Israel i gyd yno — Israeliaid a pobl eraill o'r tu allan oedd gyda nhw — yr arweinwyr hŷn, swyddogion a barnwyr yn sefyll bob ochr i'r Arch, o flaen yr offeiriaid o lwyth Lefi sy'n cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD. Safodd hanner y bobl o flaen Mynydd Gerisim, a'r hanner arall o flaen Mynydd Ebal, fel roedd Moses wedi gorchymyn iddyn nhw wneud ar gyfer y seremoni fendithio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Israel gyfan ei henuriaid, ei swyddogion, a'i barnwyr yn sefyll o boptu'r arch, gerbron yr offeiriaid, sef y Lefiaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD. Yr oedd estron a brodor fel ei gilydd yno, hanner ohonynt ar bwys Mynydd Garisim, a hanner ar bwys Mynydd Ebal, fel yr oedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn yn y dechrau ar gyfer bendithio pobl Israel.