Joshua 8:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna chwi a godwch o'r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr ARGLWYDD eich DUW a'i dyry hi yn eich llaw chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn byddwch chi'n dod o'r lle roeddech chi'n cuddio ac yn concro'r dre. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich dwylo chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Codwch chwithau o'ch cuddfan a meddiannu'r dref, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich llaw.