Joshua 9:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i ARGLWYDD DDUW Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai'r arweinwyr wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi cymryd llw, a gwneud addewid i'r bobl yma yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Allwn ni ddim eu cyffwrdd nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd yr holl arweinwyr wrth y gynulleidfa gyfan, "Yr ydym ni wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn awr ni allwn gyffwrdd hwy.