Joshua 9:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a atebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i'th weision, ddarfod i'r ARGLWYDD dy DDUW orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o'ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n ateb, “Roedden ni'n clywed o hyd ac o hyd fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrth ei was Moses fod y wlad gyfan i'w rhoi i chi, a'ch bod i ddinistrio pawb oedd yn byw yma o'ch blaen chi. Roedd gynnon ni ofn am ein bywydau, a dyna pam wnaethon ni beth wnaethon ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant Josua fel hyn: "Fe ddywedwyd yn glir wrthym ni, dy weision, fod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i'w was Moses roi i chwi y wlad gyfan, a distrywio o'ch blaen ei holl drigolion; am hynny yr oedd arnom ofn mawr am ein heinioes o'ch plegid, a dyna pam y gwnaethom hyn.