Joshua 9:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywedodd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n fodlon bod yn weision i chi.” A dyma Josua yn gofyn iddyn nhw, “Pwy ydych chi ac o ble dych chi'n dod?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant wrth Josua, "Dy weision di ydym." Pan ofynnodd Josua iddynt, "Pwy ydych, ac o ble y daethoch?",